{ko i vorvydd}
1 Cywyddae twf cywiwddoeth
2 cof hardd am rhydd cathlvardd coeth
3 ni bu nog wynt pwynt ampel
4 vn organ mor anirgel
5 maenduy serch vnvam vndad
6 dan vy mron yn dwyn vy mrad
7 holl gwmpas y lleidrwas llwyd
8 or hyn oll yr henillwyd
9 rhois iddi bob rhuw swyddau
10 rhugl voliant or meddiant mav
11 gwrle telyn ag orloys
12 gormodd rhodd gwr meddw ai rhoys
13 heyais val orohian
14 ichlod yngwynedd achlan
15 hydwf y mae'n ehedeg
16 had tew llyna head deg
19 Pater noster anistaw
20 pawb ar a gant llorfdant llaw
21 [335] ymhob cyvedd rhyvedd rhi
22 yw i cherdd yn wych erddi
23 tavawd am tyvawdd ganmawl
24 teg a gwen yw Amen mawl
25 cans ar ddiwedd pob gweddi
26 cof cywir yr henwir hi
27 chwaer ydiw tywynlliw tes
28 i verch wgan varchoges
29 vn llais wyf yn lle safai
30 ar gog morwyn gyflog Mai
31 honno ni vedr oi hannwyd
32 eithr vn llais ai thorvn llwyd
33 ni thau y gog ai chogor
34 crygu mae rhwng craig a mor
35 ni chan gywydd lonydd lw
36 nag acen onid gwccw
37 gwys ym Mon may gwas mynaich
38 vvm i yn ormodd vy maich
39 yr hwn ni wna dda ddeutrew
40 lavur ond vn loywvron dew
41 dilonydd bwyll ddidwyll ddadl
42 dylynais val daly anadl
43 defnyddiaw i hurddaw hi
44 defnyddiau cerdd dwf erddi
47 talm sydd iddi os tolia
48 ag o dodir ar dir da
49 saith gywydd i Vorvydd vain
50 syth hoywgorph a saith vgain
51 adyn oi chariad ydwyf
52 aed ag wynt dieuawg wyf
53 ni ddeil cof
am gariad taladwy
54 ni ddyly hi imi mwy
Dauid ap Gwilim
Nodiadau
Mewn llaw arall ar ochr chwith t. 334 ceir: pybyr vu pawb ar vy
ol ai pwyodd ymhob heol